Trewyddel

Saif pentref bach hardd Trewyddel, sy’n gymysgwch brith draphlith o fythynnod traddodiadol wedi’u paentio, capeli carreg lwyd a dwy bont garreg, ar arfordir hyfryd Gogledd Sir Benfro, 6 milltir i’r de o dref farchnad fach hanesyddol Aberteifi ar afon Teifi.

Mae’r pentref mewn man, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, lle mae dwy afon fechan yn cwrdd wrth odre dyffryn coediog hyfryd sy’n arwain at Fae Ceibwr. Mae’r bae hwn yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gellir cerdded yno mewn 15 munud. Caiff y Bae, sydd â rhannau ohono’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ei drysori’n fawr fel traeth y pentref a’i werthfawrogi fel ased amgylcheddol a daearegol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bentref Trewyddel a’r ardal ar wefan y pentref.

Mae’r gwasanaeth bws arfordirol 405: Roced Poppit, yn cysylltu Trewyddel ag Abergwaun, Aberteifi a’r ardaloedd cyfagos.

Mae siambr gladdu Neolithig o’r enw Llech y Dribedd, a adeiladwyd tua 3 – 4000 C.C., ger Fferm Penlan a dwy gaer bentir arfordirol o’r Oes Haearn, sef Pencastell a Chastell Treruffydd, yn yr ardal.

Disgrifiwyd yr eglwys ym 1291 fel “Ecclesia de Grava Matilda.” Ers hynny, dengys cofnodion ei bod wedi ei hail-adeiladu nifer o weithiau. Cafodd yr eglwys bresennol ei hadeiladu ym 1866 ac yn y wal orllewinol mae carreg carreg sydd â’r dyddiad 1619 arni.

Roedd naw Tafarn yn Nhrewyddel yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd dwy o’r rhain yng Ngheibwr.

Yng Ngheibwr, byddai cychod gwaelod gwastad yn cario llwythi o gerrig calch a glo mân yn cyrraedd pan fyddai’r llanw’n uchel a phan fyddai’r llanw ar drai byddent yn cael eu gadael ar y lan a’u dadlwytho ar frys i geirt a cheffyl.  Yn yr odyn galch byddai’r garreg galch yn cael ei throi’n galch ar gyfer ei daenu ar y tir er mwyn gwella’r pridd. Roedd dwy odyn yma ond dim ond un sydd ar ôl bellach. Byddai glo mân, sef cymysgedd o lwch glo a chlai, yn cael ei gludo o Abertawe fel tanwydd rhad.

Yn ôl y sôn, smyglo cognac o Ffrainc i Geibwr oedd “goresgyniad olaf” y wlad hon.

Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg dirywiodd porthladd Ceibwr yn sgil gwell trafnidiaeth. Cyrhaeddodd y llong olaf ym 1926 a daeth nifer fawr o bobl i’w gweld er mwyn nodi diwedd cyfnod. Roedd y rheilffordd yn Aberteifi yn cludo glo a chalch parod a daeth cerbydau modur yn ffordd poblogaidd o deithio, er bod y modelau cynnar yn arafach na cheffyl a chert yn ôl y sôn. Caeodd y tafarnau’n fuan wedyn ond arhosodd y New Inn ar agor tan 1904.

 

Gweithgareddau

Dyma ran fwyaf anghysbell Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a gall y rhan hon o Lwybr yr Arfordir fod yn eithaf heriol. Os ydych wedi penderfynu cerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir i gyd ac yn dechrau o ben Poppit, efallai na fyddwch eisiau mynd yr holl ffordd i Drefdraeth ar eich diwrnod cyntaf!

Ond mae Llwybr yr Arfordir o gwmpas Cemaes a Cheibwr yn wirioneddol drawiadol. Mae dwsinau o forloi llwyd yn geni eu lloi ar y traethau anghysbell ger Cemaes yn yr Hydref ac mae strata droellog y graig o gwmpas Ceibwr yn ddiddorol iawn, yn enwedig ym Mhwll y Wrach, nid nepell o Geibwr.

Bwyd a diod

Mae Canolfan Arddio Penrallt gerllaw’r pentref, ble ceir llwybrau cerdded trwy dir coediog, mynediad i Lwybr yr Arfordir a chaffi trwyddedig sy’n gwneud cinio a the prynhawn.

Llety

Mae’r gwestai agosaf yn Aberteifi ond mae Tafarn yn Felindre Farchog gerllaw. Mae ambell i le gwely a brecwast yn Nhrewyddel. Mae gwersyll a maes carafanau teithiol ym Mhen Cemaes ger Poppit.  Mae parc gwyliau gyda chyfleusterau gwersylla ym Maenor Llwyngwair ar y ffordd i Drefdraeth ac yn nhraeth Poppit ger Aberteifi. Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo ledled y rhan hon o Sir Benfro, gan gynnwys casgliad o letai hunanarlwyo ac asiantaeth fythynnod yn Nhrewyddel ei hun. Mae hostel ieuenctid yn Poppit.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi