Solfach

Mae dwy ran i’r pentref bach hyfryd yma ar arfordir deheuol Penrhyn Dewi – Solfach Uchaf ar y bryn a Solfach Isaf yn nyffryn cul yr afon sy’n arwain at yr harbwr 

Ac er mai bychan iawn yw’r pentref, mae yno dair tafarn, dau gaffi, dau fwyty, orielau artistiaid a sawl siop ddiddorol, felly mae digonedd i’w weld!  

Ceir maes parcio ger yr harbwr, ond gall fod yn brysur iawn yng nghanol yr haf. Os ewch chi am dro bach ar hyd y Gribin cewch un o olygfeydd gorau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac os ewch i ochr draw’r harbwr, cewch un o’r lleill!   

Hwlffordd yw’r orsaf rheilffordd agosaf. Mae gwasanaeth bws rheolaidd a da i Dyddewi a Hwlffordd, a gall y Pâl Gwibio fynd â chi i Dyddewi yn ogystal â phob arhosfan hygyrch ar yr arfordir hyd at Aberdaugleddau yn y de. Mae’n wasanaeth gwych i unrhyw un sy’n cerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro. 

Mae cwm cul Solfach yn enghraifft wych o ddyffryn a grëwyd gan ddŵr tawdd yn llifo oddi ar y llenni iâ wrth iddynt doddi ar ddiwedd yr oes iâ ddiwethaf. Pan lanwodd y dyffryn gyda dŵr, ffurfiwyd harbwr cysgodol perffaith.  

Mae siambr gladdu Neolithig ar fferm St Elvis tua’r de, a chaer bentir o Oes yr Haearn ar ben y Gribin ger yr harbwr. Ceir cyfres o odynau calch wediu hadnewyddu ar hyd ymyl yr harbwr. 

Yn ystod y 19eg ganrif, roedd 30 o longau masnach wedi’u cofrestru yn Solfach.  

Dynodwyd Solfach yn ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 1997.   

Gweithgareddau

Mae Solva Sailboats ar y cei. Mae’r rhain yn hyfforddwyr cychod hwylio a chychod modur sydd wedi’u hachredu gan y RYA. 

Atyniadau

Mae gan yr artist lliwgar o Giwba, Raul Speek, oriel ar y stryd fawr, a chynhelir gweithdai rheolaidd, digwyddiadau cerddorol, a dawnsio salsa yno.  

Filltir i fyny’r afon o’r pentref mae Melin Wlân Solfach. Dyma’r felin sydd wedi bod yn gweithio’n ddi-dor am y cyfnod hiraf yn y Sir, gan gynhyrchu carpedi a charthenni o’u brethyn nodweddiadol – dyma’r rhai a ddefnyddiwyd yn nhŷ’r Tywysog Charles yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd yr olwyn ddŵr wreiddiol ei hadnewyddu’n ddiweddar a bellach mae hi’n gyrru’r felin unwaith eto. Mae siop a chaffi ar y safle hefyd.  

Ar y stryd fawr, mae siop arbennig Window on Wales yn gwerthu pob mathau o grefftau, celf a dillad o Gymru. Sefydlwyd hi yn 1978 gan rieni David Grey. 

Bwyd a Diod

O’i lleoliad ger y maes parcio yn Solfach Isaf, mae gan dafarn yr Harbour Inn olygfeydd gwych o’r aber. Y tu mewn, mae bar clyd sydd â thân coed yn y gaeaf ynghyd â bar mwy addas i deuluoedd. Mae digonedd o le y tu allan hefyd, gyda gardd gwrw yn ogystal â seddau o flaen y dafarn. Gan ei fod yn wynebu’r de orllewin, mae’n llecyn heulog iawn yn yr haf. Mae bwyd i’w gael amser cinio a gyda’r hwyr, ac mae carferi ar y Sul. Gwerthir sawl cwrw Cymreig yn syth o’r gasgen yma.  

Tafarn hardd o’r 16eg Ganrif yw’r Cambrian Inn yn Solfach Isaf, ac mae’n un o’r tafarndai/bwytai hynaf yn Sir Benfro. Cafodd ei hadnewyddu yn 2011 a bellach mae awyrgylch gyfoes, chwaethus yno.  

Mae’r Ship, ar stryd fawr Solfach Isaf, yn dafarn deuluol sy’n llawn cymeriad a chroeso, gyda’i thân agored, ei distiau pren, a’i gardd gwrw ger yr afon.  

Yn y tŷ gwydr yn Oriel Raul Speek mae’r Lavender Cafe sy’n gwerthu bwyd lleol a ffres am brisiau rhesymol, Fe gewch chi frechdanau cranc, paninis, cawl cartref, cacennau, yn ogystal â chynigion arbennig, ac mae ganddynt drwydded lawn hefyd. Mae croeso yno i gŵn a theuluoedd.  

Os ewch am dro hyd y cei byddwch yn cyrraedd caffi Clwb Cychod Solfach lle cewch baned neu ddiod oer, brechdanau ffres, cacennau cartref, a hufen iâ i’w mwynhau yno neu i fynd gyda chi. Mae’r lleoliad uwchben yr harbwr yn fendigedig, ac mae croeso i rai nad ydynt yn aelodau.  

Mae Thirty Five Main Street, drws nesaf i’r Harbour Inn, yn lle braf i gwrdd am goffi, cinio, te prynhawn, neu i flasu’r 14 gwahanol hufen iâ sydd yno.  

Yn Solfach Uchaf, mae bwyd a golygfeydd gwych dros yr harbwr yn y Royal George.  

Gallwch brynu cranc ffres wedi’i baratoi yn barod o siop Solva Sea Foods yn Solfach Uchaf. 

Llety

Mae ystafelloedd chwaethus i’w cael yn y Cambrian Inn, ac mae ystafelloedd en-suite yn y Ship hefyd. Mae sawl llety gwely a brecwast yn Solfach, gan gynnwys Felingog, Caleb’s Cottage, Pen y Banc ac Aelwyd B&B.  

Mae dewis gwych o fythynnod hunanarlwyo hefyd, ac asiantaeth hunanarlwyo wedi’i lleoli’n agos i’r pentref.  

Mae’r meysydd gwersylla agosaf ychydig y tu allan i Solfach, yn Nine Wells i’r gogledd a Mount Farm i’r de. 

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi