Saundersfoot

Pentref glan y môr bychan rhwng Dinbych-y-pysgod ac Amroth yw Saundersfoot. Mae’n llai o faint o lawer na Dinbych-y-pysgod, a chanddo ei gymeriad a’i nodweddion ei hun. Mewn sawl ffordd, mae Saundersfoot yn lleoliad mwy hygyrch hefyd: mae’r traeth yn llydan a thywodlyd ac yn meddu ar faner las.

Mae digonedd o leoedd i fwyta ac yfed o gwmpas yr harbwr, ac mae digon o le i barcio yn agos i’r traeth – yn ymyl yr harbwr yn ogystal ag ym maes parcio Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sydd y tu ôl i’r siopau. Cafodd Saundersfoot ei ddynodi’n ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 1995.

Mae gorsaf drenau o’r enw ‘Saundersfoot’, ond mae tua milltir y tu allan i’r pentref. Does dim cyfleusterau o gwbl yno ac felly bydd rhaid i chi drefn i rywun ddod i’ch nôl chi oddi yno. Os byddwch angen bws neu dacsi, dewch oddi ar y trên yng ngorsaf Dinbych-y-pysgod. Mae gwasanaethau bws da i fynd a chi i mewn i Ddinbych-y-pysgod neu ymhellach ar hyd yr arfordir i Amroth a Phendine.

Adeiladwyd porthladd Saundersfoot yn wreiddiol er mwyn cludo glo o ardal Stepaside. Does dim ar ôl o’r pyllau bellach, ond mae un o rannau mwyaf difyr Llwybr Arfordir Sir Benfro wedi’i greu o hen lwybr y tram a gludai’r glo i’r harbwr.

Wrth gerdded tua’r dwyrain o harbwr Saundersfoot, byddwch yn cyrraedd adeilad o’r enw The Barbeque. Dyma hen adeilad swyddfa pwll glo Bonville’s Court. Ewch ymlaen tua’r dwyrain ar hyd y Strand a byddwch yn mynd trwy dwnnel byr i draeth Coppet Hall.

Ar ochr draw’r traeth mae dau dwnnel arall a llwybr llydan, gwastad sy’n berffaith ar gyfer cadeiriau olwyn a choetsis. Os ydych eisiau dal i fynd ar hyd yr hen dramffordd, bydd yn gwyro oddi wrth y môr ac yn mynd trwy’r coed tuag at Stepaside, lle gallwch fynd i weld yr hen waith haearn. Mae’r llwybr wedi’i adnewyddu’n ddiweddar, ac mae’n berffaith ar gyfer cerdded neu feicio.

Gweithgareddau

Waeth pa gyfeiriad y dewiswch chi gerdded yn Saundersfoot, bydd Llwybr Arfordir Sir Benfro yn siŵr o blesio. Mae llwybr gwastad sy’n addas i feiciau, cadeiriau olwyn, a choetsis yn arwain at Coppet Hall a Wisemans Bridge i un cyfeiriad a Dinbych-y-pysgod i’r cyfeiriad arall.

Er nad yw Dinbych-y-pysgod yn bell, mae’r llwybr yn arw ac yn fryniog iawn, ac mae llechweddi serth i lawr at draethau bychain fel Waterwynch. Aiff y llwybr trwy goetir sy’n garped o glychau’r gog ym mis Mai.

Mae canolfan brwydro laser Battlefield LIVE! ger Saundersfoot – tebyg i paintballing ond heb y cleisiau!

Mae cychod pleser Saundersfoot yn cynnig tripiau o’r harbwr.

Atyniadau

Y traeth yw’r prif atyniad. Mae’r prif draeth yn draeth nofio teuluol ac ni chaniateir cŵn yno rhwng Mai a Medi. Os oes gennych gŵn, ewch i lawr y Strand at y llwybr i’r traeth sydd ger y twnnel. Caniateir cŵn i’r dwyrain o’r man yma i gyferiad Coppet Hall. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn cael darlun eglur o ardal y gwaharddiad.

Os ydych am gael traeth llanw isel tawelach, gallwch gyrraedd traeth Glen drwy’r harbwr. Cerddwch draw i’r ochr orllewinol, mae’n haws na chroesi’r afon sy’n llifo o’r harbwr ar lanw isel.

Gerllaw, mae Gardd Goedwig Colby sy’n cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ganddynt lawlyfr gwych ar gyfer plant o’r enw ‘50 things to do before you’re 11¾’, ac mae modd cael copi o’r dderbynfa – ewch ati i groesi hynny fedrwch chi oddi ar y rhestr!

Cynhelir digwyddiadau yn Saundersfoot trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ffair Nadolig Sant Nicolas a’r nofio enwog ar Ddydd Calan.

Bwyd a Diod

Mae’r bwyd gorau gyda’r golygfeydd gorau i’w cael ym mwyty’r Cliff yn y St Bride’s Spa Hotel sydd ar y clogwyn uwchben yr harbwr. Yn y pentref ei hun, mae sawl dewis gan gynnwys y Beachside Barbecue, bwyty ardderchog ar gyfer y teulu neu Marina Fish & Chips, sy’n coginio’ch pysgodyn yn arbennig i chi wedi i chi ei archebu.

Mae gan dafarn y Captain’s Table fwydlen helaeth.

Ymhlith y tafarndai eraill sy’n darparu bwyd mae’r Hean Castle Inn, yr Old Chemist Inn, a’r Royal Oak.

Ger yr harbwr mae bwydlen dda i’w chael ym mwyty ffasiynol Mulberry, gan gynnwys un pris penodol atyniadol iawn.

Mae sawl caffi gwych hefyd, gan gynnwys y Silver Strand, sy’n siop gemwaith a chaffi, y Shoreline Cafe, sy’n darparu cerddoriaeth fyw bob hyn a hyn, a’r Lounge Coffee Bar.

Os ewch chi am dro bach ar hyd y Strand a thrwy’r twnnel fe ddewch chi at fwyty Coast. Mae ym mhen dwyreiniol y traeth, ac fe’i adeiladwyd ar fin y traeth er mwyn gwneud y gorau o’r golygfeydd ar draws Bae Caerfyrddin. Mae’r prif gogydd yn ymfalchïo yn ei ddefnydd o gynnyrch gorau Sir Benfro, yn enwedig bwyd môr.

Llety

Mae sawl gwesty, gan gynnwys y St Brides Bay Spa Hotel hyfryd ar y clogwyni uwchben y traeth, gyda golygfeydd gwych dros bentref Saundersfoot a Bae Caerfyrddin.

Mae nifer o leoedd gwely a brecwast a thai llety yn eithaf canolog hefyd, yn ogystal â sawl bwthyn a fflat hunanarlwyo sydd hefyd yn rhannu’r un golygfeydd godidog. Byddai asiantaeth bythynnod yn lle da i gychwyn chwilio.

Yn bellach allan i’r wlad, mae sawl gwersyll a maes carafanau da iawn i’w cael, ynghyd â sawl parc gwyliau lle gallwch rentu carafan statig hunanarlwyo. Mae Swallowtree Gardens, sydd mewn safle ardderchog yn y coed uwchben Traeth Glen, yn un o’r rhain.