Porthgain

Pentref bychan ar arfordir gogleddol Penrhyn Tyddewi yw Porthgain.

Ar un adeg, roedd yn harbwr masnachol bychan yn allforio carreg o’r chwarel gyfagos, ond bellach mae Porthgain yn ganolfan boblogaidd gyda thwristiaid, diolch i’r dafarn wych, bwyty a chaffi arddechog ac orielau celf arbennig.  Mae hyn, ynghyd â lleoliad anhygoel Porthgain yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn ei wneud yn lle diguro.

Cafodd yr harbwr ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer ffilmio’r comedi ‘Their Finest’ gyda Gemma Arterton, Bill Nighy a Sam Claflin yn 2017. Darllenwch ragor am leoliadau ffilmio Sir Benfro.

Mae Porthgain yn lle perffaith i ymweld ag ef os ydych ar wyliau byr yn Nhyddewi, gan nad yw ond 7 milltir o’r ddinas.

Mae Gwasanaeth Bws Arfordirol Gwibiwr Strwmbwl yn cysylltu Porthgain â Thyddewi ac Abergwaun a’r holl fannau hygyrch rhyngddynt ar yr arfordir. Mae’r amserlen wedi ei chynllunio gan ystyried cerddwyr, ac mae modd i chi gael eich gollwng yn y bore a’ch casglu yn y prynhawn.

O tua 1850 ymlaen roedd llechi, wedyn brics, ac yna gwenithfaen, yn cael eu hallforio o’r harbwr. Byddai’r wenithfaen, wedi’i malu, yn cael ei thywallt o’r hoperi brics anferth a adeiladwyd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, yn syth i gychod bach ar hyd harbwr Porthgain.  

Gallwch weld y strwythurau hyn, ynghyd â rhai eraill oedd ynghlwm â’r diwydiant llechi cynharach, gan gynnwys odyn galch, yr harbwr a thŷ’r peilot, ym Mhorthgain hyd heddiw. Roedd llechi hefyd yn cael eu cloddio yn Abereiddi a’u cludo ar hyd y dramffordd i Borthgain ar gyfer eu hallforio. Daeth mwyngloddio i ben yma yn y 1930au.

Gweithgareddau

Porthgain yw’r lle perffaith i lansio caiacau er mwyn crwydro’r rhan hon o’r arfordir ond bydd rhaid i chi ddod â’ch caiac eich hun.

Cerdded yw’r prif weithgaredd. Mae un o deithiau cerdded gorau Sir Benfro, i draeth Abereiddi ac yn ôl, i’w chael i’r gorllewin ar hyd Llwybr yr Arfodir. Mae digon i’w weld, o’r hen chwarel uwchben Porthgain i’r chwareli llechi yn Abereiddi. Mae Traeth Llyfn, gyda’i risiau dur diddorol i lawr at y traeth, yn hyfryd hefyd.

Atyniadau

Mae gan Oriel Harbour Lights ddewis ardderchog o waith celf gwreiddiol a phrintiadau gan artistiaid cyfoes.

Mae Oriel Alun Davies yn un o’r bythynnod yn y Stryd, rhes o dai ar gwr y pentref. Ar un adeg roedd y bythynnod hyn yn fythynnod chwarelwyr ac mae yma enghreifftiau da o ‘groglofftydd’. Ail lawr rhannol oedd y rhain, ble’r oedd y trigolion yn cysgu – ddim yn annhebyg i fflatiau mesanîn cyfoes ond gyda dipyn mwy o gymeriad!

Bwyd a Diod

Daw’r Sloop Inn ym Mhorthgain o’r cyfnod cyn y chwareli gan ei bod yn dyddio o’r flwyddyn 1743. Dyma un o dafarnau mwyaf eiconig Sir Benfro ac mae rheswm da am hynny. Mae tu fewn i’r dafarn yn hynafol a hanesyddol ac mae’r man eistedd wrth y drws ffrynt yn heulog braf. Mae’r Sloop yn gwneud bwyd amser cinio a chyda’r hwyr, gan arbenigo mewn cranc ffres o harbwr Porthgain – ddau gan llath i ffwrdd.  Does dim angen meddwl am filltiroedd bwyd yn fan hyn!

Lle bwyta sydd hyd yn oed yn nes at yr harbwr yw’r Shed. Ar un adeg, yn y cwt hwn y gwnaed yr holl beiriannau ar gyfer gweithfeydd brics Porthgain.  Mae’r Shed wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Bwyty Glan Môr y Flwyddyn AA Cymru 2006, Rhosedau AA bob blwyddyn ers 2005 a gwobr aur ranbarthol Gwir Flas Cymru yn 2007.  Mae’r Shed ar agor amser cinio a gyda’r hwyr ac maent wedi cyfyngu eu bwydlen yn ddiweddar ac yn gweini te, coffi, cacennau, pysgod a sglodion a phrydau dyddiol abennig.

Mae cimwch byw neu wedi’i goginio ar gael o’r tŷ drws nesa i’r Sloop.

Llety

Mae digon o lety ar gael yn yr ardal. Mae’r gwestai agosaf yn Nhyddewi neu Abergwaun ond mae digon o leoedd gwely a brecwast, tai llety a ffermdai sy’n cynnig gwely a brecwast yn nes at Borthgain, fel Crug Glas, Tŷ Llwyd, Yr Hafan ac Ynys Barry.

Mae llawer o wersylloedd neu meysydd carafanau teithiol ger Porthgain yn ogystal ag un neu ddau o barciau gwyliau yn Nhyddewi neu Abergwaun ble gallwch rentu carafan statig hunanarlwyo neu gaban.

Mae digon o fythynnod hunanarlwyo yn y rhan hon o Sir Benfro gan gynnwys rhai ym Mhorthgain ei hun. Mae hostel yr Hen Dŷ Ysgol yn Nhre-fin a Hostel Ieuenctid ym Mhwll Deri.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi