Nolton a Nolton Haven

Mae Nolton a Nolton Haven ym Mae Sain Ffraid ar arfordir gorllewinol Sir Benfro. Cymuned ffermio fechan yw Nolton.

Gellir mynd o Nolton Haven i Dyddewi a phentrefi Bae Sain Ffraid ar fws 400: y Pâl Gwibio.

Ar un adeg roedd y pentrefi hardd hyn yn ganolbwynt menter lofaol ffyniannus, a rhwng 1850 a 1905 roedd nifer o byllau glo lleol yn cloddio gwythiennau glo caled a redai allan o dan y môr. Roedd Nolton Haven yn borthladd glo bychan a fu’n allforio glo o’r canoloesoedd ymlaen. Roedd tramffordd hir yn mynd o’r hafan, dros y bryn i Lofa Trefran ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Ar y traeth, mae ffosiliau planhigion i’w gweld yn y creigiau mawr a’r cerrig ar waelod y clogwyni ac, mewn rhai mannau, gellir gweld gwythiennau glo caled.

Uwchben y traeth mae Capel Annibynwyr Nolton Haven, capel bychan a adeiladwyd o garreg lwyd yn 1858. Gwnaed newidiadau mewnol ym 1907 ac fe’i hadnewyddwyd ym 1923. Adeiladwyd y capel mewn dull Romanesg gyda’r fynedfa ar y talcen, dau lawr a ffenestri tal gyda phennau crynion. Mae Nolton Haven bellach yn adeilad cofrestredig Gradd 2 am ei ffasâd, sy’n uchelgeisiol yn bensaernïol, a’r defnydd o dywodfaen Nolton.

Gweithagreddau

Mae marchogaeth ar y traeth gyda Stablau Nolton yn weithgaredd boblogaidd ar draeth Druidstone gerllaw, pan fydd y llanw’n caniatáu. Mae marchogaeth trwy’r tonnau yn brofiad anhygoel a bythgofiadwy.

Atyniadau

I’r gogledd o Nolton Haven mae Gerddi a Chrefftau Hilton Court Gardens. Mae hen glos wedi ei addasu’n fwyty hyfryd a nifer o siopau diddorol. Mae’r ganolfan arddio a’r caffi y tu ôl i’r clos a thu ôl i’r rhain mae 10 erw o erddi a llynnoedd.

Bwyd a diod

Mae tafarn y Mariners Arms yn Nolton Haven. Mae bwyty a bar yn y gwesty yn Druidstone, sydd ychydig dros filltir i ffwrdd ac mae rhagor o gyfleusterau; siop, tafarn a thecawe yn Y Garn sydd ychydig dros 2 filltir a hanner i’r gogledd.

Llety

Y gwesty agosaf yw’r Druidston Hotel sydd ychydig dros filltir i’r de o’r pentrefi. Mae digon o fythynnod hunanarlwyo ar gael yn Nolton a Nolton Haven. Mae rhai ar lan y môr a rhai yn y pentrefi. Uwchben Nolton Haven, mae parc cabanau bychan a pharc carafanau gydag unedau hunanarlwyo ar gael i’w rhentu. Mae gwersylloedd a meysydd carafanau teithiol gerllaw ond ddim yn y pentrefi eu hunain.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi