Niwgwl a Roch

Clwstwr bach o adeiladau ar ochr ogleddol traeth Niwgwl yw pentref Niwgwl. Sôn am y traeth, fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o bobl wrth sôn am Niwgwl. Mae hwn ynddarnllydan, gwastad, hyfryd o dywod, ddwyfilltir o hydgyda llethr anferth o gerrig mân y tu ôl iddo.

Mae’r Garn yn bentref bach sydd i mewn i’r tir o Niwgwl. Y castell yw nodwedd amlycaf y pentref.

Gallwch gyrraedd Tyddewi a Hwlffordd o Niwgwl ar fws yr arfordir, 400: y Pâl Gwibio

Pan adeiladwyd Castell y Garn roedd yn un o grŵp o gadarnleoedd ar y ffin a amddiffynnai ran o Gymru a oedd wedi’i Seisnigeiddio rhag y Cymry annibynnol tua’r gogledd, gan warchod yr ymgartrefwyr o Fflandrys oedd wedi meddiannu’r ardal. Roedd hefyd yn fan gwylio ar gyfer bae Sain Ffraid, er mwyn amddiffyn yr ardal rhag ymosodiad o’r môr.

Y person cyntaf i fyw yn y castell, y gwyddom amdano, oedd marchog Normanaidd o’r enw Adam de Rupe. Roedd ei enw’n deillio, mae’n debyg, o’r graig lle adeiladwyd y castell, gan mai “de Rupe” oedd y Lladin am “o’r graig”. Cyn hir fodd bynnag fe’i newidiwyd i’r enw Normanaidd (neu Ffrengig) “de la Roche”.

Ym 1644, rhoddodd y Brenin Siarl ariswn yn nifer o’r cestyll yn Ne Cymru, gan gynnwys castell y Garn, o dan orchymyn y Capten Francis Edwards o Summerhill.

Fis Chwefror 1644, ymosodwyd ar y castell gan lu Cromwell dan arweiniad y Cyrnol Roland Laugharne. Wedi cyrch ffyrnig, ildiwyd y castell ar Chwefror 17eg, wedi iddo gael ei ddifrodi’n ddrwg gan ganonau a thân.

Heddiw, mae’r castell wedi’i atgyweirio i safon uchel er mwyn darparu llety moethus

Gweithgareddau

Canolbwynt Niwgwl a’r Garn yw’r traeth. Mae traeth Niwgwl yn dywod euraid, ddwy filltir o hyd (ar lanw’n isel!)

Niwgwl yw un o dri phrif leoliad syrffio Sir Benfro sy’n denu syrffwyr a chaiacwyr, ond oherwydd hyd y traeth a’r ffaith nad oes rhwystrau o dan y dŵr, mae’n berffaith ar gyfer hwylfyrddio a syrffio barcud hefyd.

Gallwch logi byrddau syrffio, corff-fyrddau a chaiacs gan Newsurf ym mhen gogleddol y traeth. Gallwch drefnu gwersi syrffio a sesiynau syrffio barcud gyda The Big Blue Experience

Atyniadau

Y traeth!

Bwyd a diod

Ym mhen gogleddol y traeth mae tafarn y Duke of Edinburgh a’r Sands Cafe sy’n gweini bwyd drwy’r dydd o amser brecwast ymlaen.

Mae siop yn Newsurf, ble gallwch gael nwyddau angenrheidiol yn ogystal â siwt wlyb!

Yn y Garn mae tafarn, siop, siop sglodion a siop ble gallwch gael cranc a chimwch mwyaf ffres yr ardal.

Llety

Mae nifer o leoedd gwely a brecwast, ffermydd a thai llety ger Niwgwl ond mae’r gwestai agosaf yn Nhyddewi neu Hwlffordd. Mae nifer o safleoedd gwersylla a meysydd carafanau teithiol. Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo yn Niwgwl a’r pentrefi gerllaw. I gerddwyr Llwybr yr Arfordir, mae hostel Ieuenctid ym Mhen y Cwm.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi