Martlerwy, Landshipping a Lawrenni

Mae glan ddwyreiniol rhannau uchaf y Daugleddau’n dawel a gwledig gyda nifer o bentrefi cysglyd yn swatio yng nghanol coedwigoedd derw a chaeau. Er ei fod i mewn yn y tir, mae’r rhan fwyaf o’r ardal hon yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Yn nyddiau’r  Tuduriaid, roedd y pentref yn fan masnachu gyda thua 12 cartref. Byddai nifer o lwythi’n cyrraedd ar gychod o Gei Cresswell a Landshipping ac yn cael eu hail-lwytho yn Lawrenni.

Sefydlwyd y Clwb Criced ym 1894/95, ond daeth y criced i ben yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafwyd yr ymdrech gyntaf i ailsefydlu’r tîm ym 1918 pan deithiod y tîm i Cosheston ac roedd pawb allan am 13!

Sefydlwyd canolfan awyr forol yng Nghei Lawrenni yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daeth yn gartref parhaol i Sgwadron 764 a’i fflyd o awyrennau môr ‘Walrus’, gyda hyd at 15 awyren weithiau’n cael eu hangori ar yr afon rhwng Lawrenni a Choedcanlas.

Gweithgareddau

Mae Lawrenni’n bentref bach hynod i’r de orllewin o Martletwy ond Cei Lawrenni, llecyn hyfryd ar yr aber, yw’r lle mwyaf diddorol i ymweld ag ef.

Bydd taith gerdded gylchol dda ar hyd glan yr afon o’r fan hyn ac yn ôl drwy’r pentref yn mynd â chi drwy’r coedwigoedd derw naturiol hynaf ym Mhrydain ac i fyny heibio aber afon Garron. Mae’r llwybr poblogaidd drwy’r coed derw crog hynafol, trawiadol hyn yn rhan o lwybr Landsker ac mae’n hawdd i’w ddilyn.

Mae dau bontŵn yng Nghei Lawrenni ac felly mae’n lle ardderchog i lansio’ch caiac neu’ch canŵ a chrwydro dyfrffordd y Daugleddau.

Atyniadau

Mewn cyferbyniad llwyr â’r ardaloedd gwledig hyn, mae Parc Antur Oakwood, unig Barc Antur Cymru wedi ei leoli ger yr A4075, ychydig filltiroedd i’r gogledd ddwyrain o Martletwy. Mae nifer o reidiau cyffrous yn yr atyniad hwn, sydd mewn lleoliad hardd yn y goedwig.

Yn agos at Bluestone, mae Parc Dŵr y Blue Lagoon. Mae llithrennau, afon ddioglyd a pheiriant tonnau yno.

Bwyd a diod

Mae Martletwy yng nghanol yr ardal hon ac yn fwyaf adnabyddus am ei winllan: Gwinllan Cwm Deri sy’n cynhyrchu amrywiaeth o winoedd a gwirodydd. Mae ganddynt fwyty mewn ystafell haul ac maent yn gweini bwyd amser cinio a gyda’r hwyr.

Mae’r Lawrenny Arms, sydd hefyd yng Nghei Lawrenni, ar agor drwy’r flwyddyn ac yn gweini bwyd. Mae’r pontŵn Lawrenni’n sownd i flaen y dafarn. Mae’r Quayside Tearoom yn gaffi hyfryd, sydd wedi ennill nifer o wobrau. Mae ar agor o’r Pasg tan ddiwedd mis Medi.

Siop y pentref yn Lawrenni, sy’n eiddo i’r gymuned, yw’r unig un am 7 milltir.  Mae nwyddau ar gael yno i ymwelwyr ac mae hefyd yn gwerthu cynnyrch lleol. Ar agor 7 diwrnod yr wythnos.

Llety

Mae nifer o leoedd gwely a brecwast a ffermdai ar gyfer ymwelwyr yn ardal Lawrenni. Mae gwersylloedd a meysydd carafanau teithiol yn yr ardal yn ogystal â bythynnod hunanarlwyo. Mae gan bentref Lawrenni hostel sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned ac mae’r elw i gyd yn mynd yn ôl i’r gymuned.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi