Marloes a Dale

Mae penrhyn Marloes ar ochr orllewinol Sir Benfro ym mhen deheuol Bae Sain Ffraid. Mae Dale ar ochr ddeheuol y penrhyn a Marloes ar yr ochr ogleddol.

Mae Dale yn swatio mewn bae cysgodol tra bod Marloes mewn lleoliad mwy gwyllt ac agored.

Mae Marloes ar lwybr wasanaeth bws arfordirol 400: Y Pâl Gwibio, sy’n cysylltu’r pentrefi o Sain Ffraid i Dyddewi. Mae Dale ar lwybr gwasanaeth 315 sy’n ei gysylltu ag Aberdaugleddau a Hwlffordd ac mae gorsaf reilffordd yn y ddwy dref.

Mae nifer o safleoedd cynhanesyddol wedi eu darganfod yn yr ardal. Darganfuwyd fflintiau ar hyd clogwyni’r gorllewin. Ymgartrefodd pobl yma a dechrau ffermio yn ystod y cyfnod Neolithig (3,500 – 2,000 CC); darganfuwyd offer fflint mwy soffistigedig o’r cyfnod hwn mewn nifer o safleoedd ger Fferm Brunt a gallwch eu gweld yn amgueddfa Dinbych-y-pysgod.

Yn lleoliad amlwg wrth geg Aber y Ddaugleddau, roedd gan Dale swyddogaeth amddiffynnol am nifer o ganrifoedd. Ar 7 Awst 1485 glaniodd Harri Tudur a’i luoedd ym Mill Bay. Gorymdeithion nhw heb i unrhyw un eu rhwystro i Gaerlŷr lle llwyddodd Harri i orchfygu  Richard III a hawlio’r frenhiniaeth.

Roedd Dale yn ganolfan gynhyrchu cwrw yn y 18fed ganrif ac roedd yn allforio cwrw i Lerpwl. Roedd llwythi cyffredinol hefyd yn cael eu cludo fel rhan o’r fasnach arfordirol. Fodd bynnag, y prif drafnidiaeth yn ystod y 18fed ganrif, y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif oedd cludo carreg galch, glo a glo mân (cymysgedd o lwch glo a chlai) i’r traethau ble’r oedd odynnau’n llosgi calch ar gyfer y ffermydd lleol.

Mae’r traethau graean a’r cildraethau creigiog o gwmpas Marloes a Gateholm yn enwog am nifer o longddrylliadau hanesyddol a achoswyd gan y moroedd peryglus o gwmpas Ynys Sgogwm, ychydig oddi ar yr arfordir. Mae Traeth Albion wedi ei enwi ar ôl llong stêm yr Albion a darodd graig yn Swnt Jack ar 18 Ebrill 1837. Gallodd y capten arwain ei long i’r tywod cyfagos a llwyddwyd i achub pawb oedd arni a dod â nhw’n ddiogel i Farloes. Suddodd yr Albion ar y traeth ac fe’i chwalwyd gan stormydd. Ar lanw isel gellir gweld rhannau o’r llong yn y tywod hyd heddiw.

 

Gweithgareddau

Mae pobl yn heidio i Dale i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr, gan ei fod mewn bae cysgodol filltir o hyd ar ddyfrffordd y Ddau Gleddau. Mae dŵr y bae yn lân ac mae’r goleddu graddol yn berffaith ar gyfer hwylio a chaiacio. Gallwch gael hyfforddiant neu logi offer o West Wales Wind, Surf and Sailing ym mhentref Dale.

Atyniadau

Ger pentref Marloes mae Martin’s Haven, ble mae’r cychod yn gadael am Ynys Sgomer. Mae’r ynys wedi ei phrydlesu i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru, sy’n ei rheoli fel gwarchodfa natur. Mae tua 6,000 pâr o balod a 120,000 pâr o adar drycin Manaw yno.

Gallwch fynd ar deithiau i Ynysoedd Sir Benfro o Martin’s Haven hefyd.

Mae’n ‘rhaid’ i chi ymweld â Thraeth Marloes. Mae’r traeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol hwn yn ardderchog ac mae’r ddaeareg yn rhyfeddol, gyda thywodfeini a chreigiau folcanig â phlygiadau, ffawtiau a chreigiau garw. Roedd caer o’r Oes Haearn ar Ynys Gateholm yn lleoliad cloddio ar gyfer Time Team, Channel 4.

Mae Cors Marloes yn fan poblogaidd i wylio adar ac mae’n denu nifer fawr o adar dŵr yn y gaeaf.

Bwyd a diod

Mae tafarn wych sy’n gwneud bwyd blasus yn Dale ac oddi yno gallwch weld ar draws y bae. Mae caffi, bwyty a siop bentref yno, ynghyd â thafarn y Lobster Pot, caffi’r Clock House a siop bentref.

Llety

Mae digon o lety ar gael yn Dale, Marloes a phentrefi cyfagos. Mae’r gwestai agosaf, fodd bynnag yn Aberdaugleddau. Mae nifer o leoedd gwely a brecwast, tai llety, ffermdai ac ambell wersyll a maes carafanau teithiol. Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo ar benrhyn Marloes. Mae hostel ieuenctid ger Traeth Marloes a byncws yn Herbrandston.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi