Llandudoch

Mae pentref hynod Llandudoch yng ngogledd orllewin Sir Benfro, ger tref farchnad Aberteifi a’r ffin gyda Sir Gaerfyrddin.

Mae’n lleoliad o bwys gan mai yma mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn cychwyn, neu’n gorffen, yn dibynnu ar pa gyfeiriad y byddwch chi’n cerdded.

Gerllaw, mae traeth a thwyni baner las Poppit.

Yr orsaf rheilffordd agosaf sydd â chysylltiadau bws rheolaidd yw Caerfyrddin mae’n debyg. Mae gwasanaeth bws arfordirol Roced Poppit yn cysylltu Llandudoch gydag Aberteifi, traeth Poppit, a Threfdraeth. Mae’r gwasanaethau yma wedi’u creu i fod o gymorth i gerddwyr, gyda gwasanaeth boreol i’ch cludo i fan cychwyn eich taith, a gwasanaeth yn y prynhawn i’ch nôl chi drachefn.

Mae pobl wedi byw yn Llandudoch ers blynyddoedd maith, ond does dim olion hŷn na’r goresgyniad Normanaidd. Y Normaniaid sefydlodd y Priordy yn 1113, a gafodd ei ddyrchafu’n Abaty yn 1120.

Gweithgareddau

Mae Cardigan Bay Active wedi’u lleoli ar y cei ar ochr ddeheuol Pont Aberteifi. Mae’r cwmni’n trefnu ystod o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys arfordira, syrffo, caiacio môr ac afon, tripiau cwch i wylio bywyd gwyllt, gwylltgrefft, dringo a beicio mynydd.

O bryd i’w gilydd, pan fydd y gwynt yn rhy gryf ar y clogwyni, bydd Pembrokeshire Paragliding yn defnyddio traeth Poppit.

Atyniadau

Agorwyd Canolfan Dreftadaeth y Cartws, sydd wedi’i leoli ger yr Abaty, yn 2008, Fe’i hadeiladwyd mewn hen goetsiws gydag estyniad modern, sy’n cynnwys caffi a chanolfan ddehongli ar gyfer y pentref a’r ardal gyfagos. Mae modelau a chyfleusterau dehongli yn y ganolfan, yn ogystal â chasgliad o feini Cristnogol o’r 7fed – 10fed ganrif sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, ac sy’n hŷn na’r Abaty ei hun.

Mae gan y ganolfan gyfleusterau addysg ar gyfer ysgolion, colegau, ac ymchwilwyr archeolegol, yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer Cymdeithas Hanes Llandudoch, gweithdai gan artistiaid lleol, ac arddangosfeydd celf, crefftau, hanes lleol, a hanes naturiol.

Sefydlwyd Abaty Llandudoch yn y 12fed ganrif ar safle mynachlog cyn-Normanaidd. Mae rhannau o’r eglwys a’r clas yn dyddio o’r 12fed Ganrif, mae muriau gorllewinol a gogleddol corff yr eglwys o’r 13eg Ganrif, ac mae addurniadau o’r 14eg Ganrif ar y drws gogleddol. Tuduraidd yw’r transept gogleddol. Gellir gweld sylfeini tŷ’r siapter i’r gorllewin o’r clas, ac mae’r clafdy cyfagos yn dal i sefyll bron at y to. Wedi Diddymiad y Mynachlogydd, parhaodd y plwyf i ddefnyddio’r eglwys, ac adeiladwyd rheithordy yng nghornel de-orllewinol y clas.

Yn Eglwys Sant Tomos, sydd drws nesaf i’r Abaty, cedwir Carreg Sagranus, sydd ag ysgrifen Ogham hynafol arni.

Y Felin yn Llandudoch yw un o’r unig ddwy felin ddŵr weithredol yng Nghymru, ac mae’r holl beirianwaith gwreiddiol yn parhau i weithio ers ei hadnewyddu. Adeiladwyd hi yn y 12fed ganrif, ar gyfer yr Abaty mae’n debyg. Gallwch fynd ar daith dywys o amgylch y felin i weld sut mae’r holl flawdiau gwahanol, gan gynnwys blawd gwenith cyflawn, blawd hadau a pherlysiau, a blawd garlleg a chennin syfi, yn cael eu gwneud. Gwerthir bob math o gynnyrch cartref ffres yn y caffi, gan gynnwys cacennau, bara, a chinio ysgafn.

Bwyd a Diod

Mae caffi gwych i’w cael yng Nghanolfan Dreftadaeth y Cartws ac yn y Felin.

Mae’r Ferry Inn mewn lleoliad hyfryd ger yr afon ar ochr orllewinol y pentref.

Mae golygfeydd gwych o’r Teifi Net Pool Inn hefyd, sy’n gweini bwyd cartref wedi’i ddarparu gan eu cogydd.

Ar Finch Street, ar ochr Aberteifi o’r pentref, mae tafarn hanesyddol y White Hart yn llawn cymeriad, cwrw da a bwydlen gynhwysfawr.

Mae bwydlen dda o gynnyrch lleol, gan gynnwys cig oen, draenog y môr, cranc, cimwch, a chorgimychiaid Bae Ceredigion i’w chael yn y Webley Hotel hefyd, ar y ffordd i draeth Poppit. Mae Caws Cenarth a hufen iâ o Grymych ar gael yno hefyd.

Bellach, mae’r Deli wedi symud i’r stryd fawr, ac erbyn hyn mae ganddynt gaffi yn ogystal â dewis da o ddanteithion – gan gynnwys ambell i gaws lleol diddorol.

Mae caffi ger maes parcio traeth Poppit, a siop pysgod a sglodion ar y stryd fawr.

Llety

Mae rhywfaint o westai, tai llety, a llety gwely a brecwast yn Llandudoch a’r cyffiniau. Mae parc gwyliau a maes gwersylla yn Poppit, a maes carafanau ym Mhen Cemaes. Ceir digonedd o fythynnod hunanarlwyo yn y pentrefi cyfagos.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi