Cilgerran

Mae Cilgerran ar ffin ogleddol Sir Benfro rhwng Llandudoch a Chenarth. Mae’n bentref hir sy’n ymestyn ar hyd glan ddeheuol Afon Teifi.

Cysylltir Cilgerran gan wasanaeth bws Sir Benfro, 430 sy’n galw yn y pentrefi rhwng Aberteifi, Crymych ac Arberth.

Tyfodd y pentref ar ôl adeiladu’r castell tua’r flwyddyn 1100. Yn y 18fed ganrif, sefydlwyd chwareli llechi o gwmpas Cilgerran yn cynhyrchu llechi to.

Gweithgareddau

Yng Ngwarchodfa Natur Corsydd Teifi, mae Heritage Canoes yn cynnig teithiau canŵio drwy geunant afon Teifi ymhell islaw Castell Cilgerran.

Mae beicio’n boblogaidd hefyd am fod llwybr beicio di-draffig y Cardi Bach, sef llwybr 5 ½ milltir (yno ac yn ôl), yn mynd drwy’r warchodfa, heibio corsydd a chuddfannau gwylio adar, i Aberteifi.

Mae llwybr beicio cylchol hirach, 17½ milltir, ‘Man Cyfarfod y Dyfroedd’ yn dechrau yn Aberteifi ac yn teithio ar hyd y Cardi Bach, drwy Gilgerran, Llechryd, Aberych a Chapel Newydd.

Atyniadau

Castell bychan, siâp tebyg i driongl, yw Castell Cilgerran. Fe’i hadeiladwyd mewn man awdurdodol, ar bentir creigiog, fry uwchben Afon Teifi.

Yn oes y Tuduriaid, rhoddodd Harri VII y castell i’r teulu Vaughan, a bu’r teulu hwnnw’n byw yno tan ddechrau’r 17eg ganrif. Bu’r artist Turner yn peintio ac yn braslunio adfeilion y castell sawl gwaith.

Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru yn adeilad gwydr a phren modern yng Ngwarchodfa Natur Corsydd Teifi. Mae’r warchodfa wlypdir hon yn gartref i amrywiaeth ryfeddol o fywyd gwyllt – dyfrgwn yn yr afon, adar sy’n gaeafu’n llochesu ar y pyllau ac, yn ystod y gwanwyn, mae’r coetiroedd yn garped o glychau’r gog.

Ymhlith yr atyniadau eraill yn y pentref, mae’r rasys cwryglau blynyddol. Dechreodd y digwyddiad hwn yn 1950 a daw cystadleuwyr o bedwar ban byd.

Ym mynwent eglwys Sant Llawddog mae maen hir megalithig neu garreg Ogam lle gellir gweld arysgrif Ogam Gwyddeleg hyd heddiw.

Bwyd a diod

Yn y ganolfan bywyd gwyllt mae Caffi’r Tŷ Gwydr yn cynnig bwydlen hyfryd o fwydydd lleol. Yn y pentref, mae tair tafarn, sef y Mason’s Arms, y Pendre a’r Cardiff Arms.

Llety

Mae’r gwestai agosaf yn Llechryd neu Aberteifi gerllaw. Prin yw’r tai llety a gwely a brecwast yma, ond mae ambell un. Ceir parc gwyliau yng Nghenarth sydd â charafanau statig, hunanarlwyo i’w rhentu yn ogystal â lle i bebyll a charafanau teithiol. Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo ledled y rhan hon o Sir Benfro. Chwilio am lety.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi