Arberth

Mae Arberth yn dref farchnad fach hyfryd yn nwyrain Sir Benfro. Mae adeiladau Edwardaidd a Sioraidd amryliw o boptu stryd fawr sy’n enwog am ei siopau hyfryd. Mae siopau annibynnol yma sy’n gwerthu bob math o nwyddau chwaethus, boed yn gelfyddyd gain neu’n fwydydd da, ochr yn ochr â siopau vintage a siopau hen bethau. A phan fyddwch chi angen hoe fach, mae digonedd o gaffis, tafarnau a bwytai ardderchog ar gael.

Darllenwch ein syniadau ar gyfer pethau i’w gwneud pan fyddwch yn Arberth – – 48 awr yn Arberth.

Mae gorsaf rheilffordd tua milltir y tu allan i dref Arberth ac mae cysylltiadau da â Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod, Aberteifi a Chaerfyrddin

Mae’r dref wedi tyfu o gwmpas waliau’r castell cerrig ond mae’r enw’n hŷn na’r castell. Arberth oedd enw’r ardal (neu’r cwmwd) cyn i’r Normaniaid gyrraedd ac mae gwreiddiau Celtaidd yr ardal i’w gweld yn chwedlau’r Mabinogi, straeon a gofnodwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ond a ddeilliai o’r hen draddodiad llafar o adrodd straeon. Mae dwy o geinciau’r Mabinogi wedi eu lleoli yn Arberth, safle llys Pwyll, Pendefig Dyfed, yn ôl y sôn

Gweithgareddau

Mae Coed Canaston gerllaw yn lle gwych i gerdded, beicio a marchogaeth.

Mae Span Arts yn gweithio’n galed i ddod â chymysgedd eclectig o gerddoriaeth a chomedi i Neuadd y Frenhines yn Arberth.

Atyniadau

Mae hi werth i chi ymweld ag Amgueddfa Arberth a gyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Amgueddfa’r Flwyddyn Artfund. Mae’n adrodd hanes hir a diddorol tref Arberth trwy gyfrwng arteffactau hanesyddol, modelau i raddfa, panelau dehongli a gweithgareddau rhyngweithiol.

Mae Castell Arberth yn gastell hirsgwar gyda thŵr ar bob cornel ond, yn anffodus does fawr ohono ar ôl heddiw. Ond y peth mwyaf diddorol am Arberth yw’r chwedlau sy’n gysylltiedig â’r ardal. Mae gwreiddiau’r castell yn y gorffennol pell ond credir mai dyma safle llys Pwyll, Pendefig Dyfed, y sonnir amdano yn chwedlau’r Mabinogi.

Bedair milltir i’r de o Arberth, ym Megeli, mae Parc Antur a Sŵ Folly Farm, sy’n llawn creaduriaid egsotig, anifeiliaid fferm, reidiau cyffrous ac anturiaethau.

Mae tri digwyddiad mawr yn rhoi Arberth ar y map. Mae Arwerthiant Planhigion Mawr Arberth yn y gwanwyn, lle mae garddwyr amatur a phroffesiynol yn arddangos eu cynnyrch, yn lle perffaith i brynu planhigion gardd.

Penllanw Wythnos Ddinesig Arberth yw’r Carnifal enwog ddiwedd mis Gorffennaf ac yna ddiwedd mis Medi cynhelir Gŵyl Fwyd Arberth sy’n denu miloedd o bobl i’r dre i flasu danteithion blasus a mwynhau arlwy o dalent coginio ryngwladol, gyda thros 50 o stondinau bwyd arbenigol a bob math o adloniant stryd.

 

Bwyd a diod

Mae gan Arberth ddewis eang o leoedd i fwyta ac yfed. Mae pedair tafarn yma a nifer o gaffis a bwytai yn ogystal â delis, siopau cigydd, siopau bara a 3 archfarchnad fechan.

Llety

Mae dau westy yn Arberth; Gwesty Plas Hyfryd yn y dref a The Grove sydd y tu allan i Arberth, 5 munud oddi ar y brif ffordd i Ddinbych-y-pysgod. Mae un neu ddau o leoedd gwely a brecwast a thai llety yn Arberth a cheir rhagor o ddewis yn Robeston Wathen a Chlunderwen. Mae gwersylloedd a meysydd carafanau teithiol yn Arberth ac o gwmpas yr ardal ac yng Nghlunderwen. Mae bythynnod hunanarlwyo yn yr ardal ac mae Pentref Gwyliau 5 seren, Bluestone dair milltir i’r gorllewin o Arberth ar y A4075.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi