Amroth

Mae Amroth ar arfordir deheuol Sir Benfro, 7 milltir i’r dwyrain o Ddinbych-y-pysgod ac ar ddechrau (neu ddiwedd os ydych yn cerdded o’r cyfeiriad arall) Llwybr Arfordir Sir Benfro sy’n 186 milltir o hyd ac yn enwog ledled y byd.

Mae fforest betraidd dan y dŵr a ddaw i’r golwg pan fydd y llanw’n isel iawn. Gallwch weld bonion coed, sy’n dyddio o’r oes iâ ddiwethaf, yn y tywod!

Mae gwasanaeth bysiau’r arfordir, rhif 351 yn cysylltu Amroth ac arfordir y de â Dinbych-y-pysgod. Mae gan Ddinbych-y-pysgod a Saundersfoot orsaf rheilffordd.

Yn ystod y 19eg ganrif roedd Amroth yn ardal cloddio glo caled bwysig ac roedd y glo’n cael ei allforio i Fryste a thu hwnt.

Bu cloddio haearnfaen a cherrig hefyd yn rhan o orffennol Amroth, ynghyd â physgota, gyda’r eog, y penfras a’r lledennod a ddaliwyd yn cael eu cludo i farchnad Dinbych-y-pysgod i’w gwerthu.

Gweithgareddau

Mae gan Amroth draeth tywodlyd llydan yn wynebu’r de, sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer hwylfyrddio, nofio a gemau teuluol.

Mae cerdded yn weithgaredd poblogaidd yma gan mai Amroth yw man cychwyn deheuol llwybr Arfordir Sir Benfro, ac, os lwyddwch chi amseru pethau’n iawn, ar lanw isel iawn gallwch gerdded ar y tywod yr holl ffordd i Saundersfoot, sy’n 3 milltir.

Atyniadau

Gerllaw mae Gardd Goedwig Colby’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r gerddi’n werth eu gweld, yn enwedig yn y gwanwyn a’r hydref. Hefyd cynhelir theatr awyr agored a digwyddiadau teuluol drwy’r haf fel arfer.

Bwyd a diod

Tu ôl i draeth Amroth, yn y pen dwyreiniol, mae tafarn deuluol y New Inn sy’n gweud bwyd cartref, gan gynnwys pysgod lleol ffres. Mae’r prif bentref yn y pen gorllewinol, ble mae dwy dafarn arall, siop bentref a chaffi.

Llety

Mae digon o wersylloedd bychain, meysydd carafanau ac ambell barc gwyliau mawr gerllaw. Mae nifer o leoedd gwely a brecwast a gwestai yn yr ardal ac yn Saundersfoot. Mae bythynnod hunanarlwyo ym mhobman ar hyd arfordir de Sir Benfro gan gynnwys rhai o’r bythynnod yn Amroth ei hun. Chwilio am lety.