Abereiddi

Mae Abereiddi’n bentref bychan bach ar arfordir gogleddol Penrhyn Tyddewi, tua 5 milltir o Dyddewi ei hun.

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro’n mynd heibio’r traeth ac mae’r rhan o Abereiddi i Borthgain yn un o rannau gorau  lwybr yr arfordir.

Mae Abereiddi ar lwybr Gwibiwr Strwmbwl. Mae gwasanaeth bws yr arfordir yn dilyn yr arfordir o Ben-caer ger Abergwaun i Dyddewi ac mae’n ffordd wych o fwynhau’r Parc Cenedlaethol heb gar.

Roedd Abereiddi’n ymwneud â’r diwydiant llechi ac roedd chwarel fechan ychydig i’r gogledd o’r traeth. Yn wreiddiol, roedd y llechi’n cael eu cludo ar draws draeth Abereiddi, ond yn ddiweddarach ar hyd tramffordd, i’r harbwr ym Mhorthgain sydd ychydig o filltiroedd i’r gogledd.  Heddiw, mae’r chwarel wedi ei boddi ac yn fwy adnabyddus fel y Shinc.

Mae’r Shinc 25 metr o ddyfnder ac mae’r dŵr bob amser yn wyrddlas unigryw oherwydd y mwynau yn y chwarel.

Mae adfeilion casgliad bychan o dai o’r enw’r Stryd yn dal i fod wrth y traeth. Roedd rhain yn dai a adeiladwyd i chwarelwyr Y Shinc a adawodd ar ôl llifogydd ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Gweithgareddau

Mae traeth Abereiddi’n enwog am ei dywod du sy’n llawn o ffosiliaid bychain ac mae’n berffaith ar gyfer gweithgareddau fel pysgota a chaiacio a gwylio morloi yn yr hydref.

Mae’r Shinc yn ffefryn gyda grwpiau antur sy’n ymarfer arfordiro, ac yn 2012 a 2013 daeth yn enwog fel yr unig fan yn y DU ble cynhaliwyd rhan o Gyfres Deifio Clogwyn y Byd Red Bull ble’r oedd deifwyr o ledled y byd yn cystadlu mewn 8 lleoliad egsotig, o Frasil i Wlad Thai, a Sir Benfro! ‘Dyw deifio o lwyfan 27metr uwchben y dŵr ddim ar gyfer y gwangalon yn ein plith!

Bwyd a diod

Mae fan hufen iâ yn y maes parcio fel arfer yn ystod misoedd yr haf. Mae’r dafarn a’r bwyty agosaf ym Mhorthgain syd 2 filltir i’r gogledd dros y clogwyni a llwybr yr arfordir, a 2.5 milltir mewn car.

Llety

Mae digon o wersylloedd a meysydd carafanau bychain gerllaw. Mae sawl lle gwely a brecwast a gwesty o safon yn yr ardal ac yn Nhyddewi. Mae bythynnod hunanarlwyo ledled penrhyn Tyddewi, gan gynnwys rhai o’r bythynnod ar draeth Abereiddi ei hun. Chwilio am lety.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi