Traeth y De, Dinbych y Pysgod

Lle chwarae milltir a hanner o hyd ar draeth tywodlyd gyda thwyni tywod.

Mae digon o le ar gyfer teuluoedd ym mhen Dinbych-y-pysgod neu ewch yn eich blaen tua’r dwyrain i gael gweithgareddau traeth mwy egnïol.

Mae’r traeth yn enfawr pan fydd y llanw allan ond mae digon o le hyd yn oed ar lanw uchel.  Mae llethr graddol yn y môr a does dim rhwystrau ynddo.

Ceir cyfyngiadau ar gŵn ar y traeth o dan y clogwyni, i’r dwyrain o’r traeth/caffi, rhwng Mai 1af a Medi 30ain.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Traeth Baner Las 2019

Parcio

Mae maes parcio bychan iawn ger Traeth y De ond mae’n llenwi’n gyflym iawn yn yr haf. Mae mwy o le yn y maes parcio preifat oddi ar yr Esplanade ond os byddwch yn cyrraedd ar ôl 11yb yn ystod gwyliau haf yr ysgolion, ewch yn syth i’r maes Parcio a Theithio a defnyddiwch y bws gwennol rhad ac am ddim. Fel arall, parciwch yng ngorsaf Penalun a cherdded ar draws y cwrs golff.

Cyfleusterau

Cadeiriau plygu a fan hufen iâ. Mae gwylwyr y glannau ar ddyletswydd o ddiwedd mis Mai hyd ddechrau mis Medi.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Caffi a thoiledau ar y ffordd i’r traeth. Canolfan groeso, nifer o gaffis, tafarndai a bwytai, nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, parciau carafanau, gwely a brecwast a hunanarlwyo yn Ninbych-y-pysgod.

  • Nofio
  • Caffi
  • Canŵio
  • Maes Parcio
  • Toiledau Anabl
  • Cyfyngiadau ar gŵn
  • Cymorth Cyntaf
  • Gwyliwr y Glannau
  • Ffôn
  • Twyni Tywod
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Traeth Gwobr Glan Môr
  • Syrffio
  • Toiledau (tymhorol)
  • Hwylfyrddio

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi