Traeth Pwllgwaelod

Bae bychan o dywod a graean tywyll yn edrych ar draws y bae tuag at Abergwaun.

Mae creigiau isel ar y ddwy ochr i ddringo drostyn nhw a nifer o byllau glan môr. Mae’n lle da i lansio cychod bach a chanŵau.

Gallwch gerdded ar hyd llwybr y ‘dyffryn’ i Gwm-yr-Eglwys ar ochr arall ‘ynys’ Dinas.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Ym mhen y traeth a ger y dafarn.

Cyfleusterau

Toiledau a llithrfa.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae tafarn/bwyty/caffi ger y traeth, yr arferai Dylan Thomas ymweld ag ef o dro i dro yn ôl y sôn. Mae dewis da o westai, gwely a brecwast, llety ymwelwyr, meysydd carafanau a gwersylla yn yr ardal. Trefdraeth yw’r pentref lleol mwyaf ac mae yno siopau, caffis, bwytai a modd llogi beiciau.

  • Nodweddion
  • Nofio
  • Canŵio
  • Maes Parcio
  • Ffôn
  • Hwylio
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Traeth Graean
  • Llithrfa neu Fan Lansio
  • Gweithgareddau Tanddwr
  • Toiledau

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi