Traeth Porth Mawr

Mae craig urddasol Carn Llidi yn edrych dros y traeth eang hwn o dywod gwyn, mân sy’n ymestyn i’r gogledd tuag at benrhyn creigiog anghysbell Penmaen Dewi.

Dyma un draethau syrffio gorau’r wlad ac felly mae’n hynod o boblogaidd. Mae’r tonnau’n torri yn y pen gogleddol ac ar ddyddiau prysur mae canŵyr, syrffwyr a chorff-fyrddwyr yn cystadlu am y tonnau gorau.

Yn y pen yma, mae pentir creigiog i ddringo arno ac mae baeau cysgodol yn y pen deheuol, tawelach.

Ceir cyfyngiadau ar gŵn ar y traeth i gyd rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Cymrwch olwg ar fap o’r traeth.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Traeth Baner Las 2019

Parcio

Parcio ar gyfer 60 o geir uwchlaw’r traeth. Gall parcio fod yn broblem yng nghanol yr haf, ond gallwch ddal y bws gwennol, y Gwibiwr Celtaidd (haf yn unig), o faes parcio Oriel y Parc, ar gyrion Tyddewi, i Borth Mawr.

Cyfleusterau

Toiledau, caffi. Mae gwylwyr y glannau yma rhwng diwedd mis Mai a dechrau mis Medi. Llithrfa.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r cyfleusterau agosaf yn ninas Tyddewi. Mae Tyddewi’n ddinas boblogaidd; cafodd statws dinas yn sgil Eglwys Gadeiriol fawreddog Tyddewi a adeiladwyd ar lannau Afon Alun yn y 12fed Ganrif. Mae Canolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol (ar agor drwy’r flwyddyn), nifer o gaffis, tafarndai a bwytai, nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, parciau carafanau, gwely a brecwast a hunanarlwyo yn Nhyddewi.

  • Nofio
  • Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
  • Caffi
  • Canŵio
  • Maes Parcio
  • Toiledau Anabl
  • Cyfyngiadau ar Gŵn
  • Cymorth Cyntaf
  • Gwyliwr y Glannau
  • Ffôn
  • Creigiog
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Traeth Gwobr Glan Môr
  • Llithrfa neu Fan Lansio
  • Nant
  • Gweithgareddau Tanddwr
  • Syrffio
  • Toiledau
  • Hwylfyrddio

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi