Traeth Poppit
Wrth aber Afon Teifi, mae traeth Poppit yn draeth tywodlyd gyda thwyni tywod.
Mae digon o draeth ar lanw uchel ond pan fydd y llanw’n isel mae fel petai’r tywod yn ymestyn draw yr holl ffordd i Gwbert, yr ochr draw. Ond, peidiwch â mentro croesi gan fod y ceryntau’n rhy gryf. Gwyliwch y llanw wrth iddo ddod i mewn. Mae’n gyflym!
Dyma ddechrau neu ddiwedd Llwybr Arfordir Sir Benfro sy’n 186 milltir o hyd ac yn mynd â chi’r holl ffordd o gwmpas yr arfordir i Amroth yn y de.
Ceir cyfyngiadau ar gŵn ym mhen gorllewinol y traeth rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn gweld i ba ran o’r traeth y mae hyn yn berthnasol.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Gwobr Baner Las 2019
Parcio
Mae maes parcio ger gorsaf bad achub yr RNLI.
Cyfleusterau
Mae gwylwyr y glannau yn gweithio rhwng diwedd mis Mehefin a dechrau mis Medi.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Toiledau a chaffi. Llandudoch yw’r pentref agosaf ac mae tafarnau, siop sglodion ac Abaty yno. Mae dewis da o westai, gwely a brecwast, llety ymwelwyr, meysyll carafanau a gwersylla yn yr ardal.
- Nofio
- Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
- Caffi
- Canŵio
- Maes Parcio
- Toiledau Anabl
- Cyfyngiadau ar gŵn
- Cymorth Cyntaf
- Gwyliwr y Glannau
- Ffôn
- Twyni Tywod
- Traeth Tywodlyd
- Traeth Gwobr Glan Môr
- Syrffio
- Toiledau
- Hwylfyrddio