Traeth Freshwater West

Mae’r traeth tywodlyd a chreigiog hwn yn boblogaidd gyda syrffwyr sy’n chwilio byth a beunydd am donnau da; mae hwn yn baradwys i syrffwyr.

Mae gan y traeth hwn, sy’n wynebu’r de orllewin, y tonnau gorau yn y sir OND dim ond nofwyr a syrffwyr profiadol a chryf ddylai fynd i’r môr yma. Mae ceryntau terfol cryf oddi ar y traeth hwn. Dyma’r lle gorau i wylio pobl yn syrffio.

Mae twyni tywod y tu ôl i’r traeth llydan, tywodlyd hwn.  Mae’r twyni’n fregus felly ni chaniateir gwersylla na barbeciws. Mae riff creigiog yn y pen deheuol ac ambell i fae tawel yn y pen arall.

Mae traeth Frainslake i’r de ond mae o fewn maes tanio Castell Martin felly nid oes modd mynd yno.  Mae’r cwt to gwellt sydd wedi’i ail-adeiladu ar y blaendraeth yn lloches a fyddai’n cael ei ddefnyddio i sychu math arbennig o wymon a ddefnyddir i wneud bara lawr, sy’n dda am ychwanegu blas i ryseitiau.

Mae Freshwater West wedi bod mewn dwy ffilm ddiweddar – Robin Hood gan Ridley Scott a Harry Potter and the Deathly Hallows lle cafodd ei ddefnyddio fel cefndir i fwthyn cregyn Dobby a adeiladwyd ar y safle gan ychwanegu bob manylyn – hyd yn oed y gwymon.  Er i’r bwthyn gael ei ddymchwel ar ôl i’r ffilmio ddod i ben, mae dal modd i chi ddilyn ôl troed Harry, Hermione a Ron.

Yn 2015, dychwelodd Hollywood i’r traeth i ffilmio Their Finest gyda Gemma Arterton a Sam Claflin. Defnyddiwyd hwn fel traeth Dunkirk.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Mae dau faes parcio bychan rhad ac am ddim, ond os yw’r tywydd yn dda ar gyfer syrffio mae hi’n anodd dod o hyd i le parcio. Mae’r lle’n llawn faniau campio! Mae rhai lleoedd i barcio ar hyd yr ffordd gul iawn. Peidiwch ag ymweld ar wyliau banc.

Cyfleusterau

Toiledau.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r Cafe Môr enwog wedi’i barcio yn y maes parcio deheuol o’r gwanwyn i’r hydref.

  • Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
  • Canŵio
  • Toiledau Anabl
  • Maes Parcio Rhad ac am Ddim
  • Ffôn
  • Creigiog
  • Twyni Tywod
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Nant
  • Syrffio
  • Toiledau
  • Hwylfyrddio