Harbwr Solfach

Ar lanw uchel, mae’r traeth yn stribed cul ar ben y gilfach ond ar lanw isel mae’r harbwr yn hollol sych oni bai am nant sy’n llifo drwy’r canol, lle gallwch gael oriau o bleser yn dal pysgod, berdys a chrancod.

Os ewch chi lawr y traeth tuag at geg y gilfach fe welwch draeth mawr tywodlyd gyda digon o byllau glan môr ac ogofâu i’w harchwilio. Mae’r dŵr yn fas yma ac yn ardderchog ar gyfer plant bach.

Ar lanw uchel, mae hwyl i’w gael yn neidio oddi ar wal yr harbwr. Mae nifer o lwybrau’n arwain at y Gribin lle mae golygfeydd ardderchog.

Yn cydredeg â Solfach, ar ochr arall y grib, mae dyffryn cul arall, sy’n arwain at draeth cerrig mân bychan hyfryd.

Mae’r ddau ddyffryn yn ddyffrynoedd dŵr tawdd a grëwyd yn ystod yr oes iâ ddiwethaf.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Rhywfaint o le parcio ym maes parcio’r harbwr.

Cyfleusterau

Toiledau, llithrfa.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae Solfach yn bentref bychan prysur gyda digon o ddewis o gaffis, bwytai a thafarnau. Mae orielau, deli a siopau anrhegion yma. Mae dewis da o wely a brecwast, tai ymwelwyr a llety hunanarlwyo yn ogystal â meysydd carafanau a gwersylla yn yr ardal. Filltir i fyny’r afon mae Melin Wlân Solfach sy’n cynhyrchu deunyddiau o ansawdd unigryw. Mae caffi yma hefyd.

  • Caffi
  • Canŵio
  • Maes Parcio
  • Harbwr
  • Angori
  • Ffôn
  • Hwylio
  • Pysgota Môr
  • Rhwyfo Môr
  • Llithrfa neu Fan Lansio
  • Gweithgareddau Tanddwr
  • Toiledau

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi