Harbwr Abercastell

Cilfach gul hyfryd sydd wedi ei chysgodi rhag y prif wyntoedd, sy’n ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer caiacwyr a chychod.

Codir tâl am lansio cychod, ac mae hyn yn helpu i dalu am gyfleusterau’r pentref.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Mae hanner dwsin o leoedd ar hyd y traeth neu nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar y ffordd.

Cyfleusterau traeth

Toiledau.

Cyfleusterau ar y lan

Mae’r cyfleusterau agosaf yn Nhre-fin, ac yno hefyd mae caffi a rhywfaint o leoedd gwely a brecwast a meysydd carafanau a gwersylla. Mae mwy o ddewis o westai, meysydd carafanau, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo ar gael yn Nhyddewi.

  • Canŵio
  • Clogwyni
  • Angori
  • Ffôn
  • Creigiog
  • Hwylio
  • Pysgota Môr
  • Traeth Graeanog
  • Llithrfa neu Fan Lansio
  • Gweithgareddau Tanddwr
  • Toiledau (tymhorol)