Bae Caerfai

Ar lanw uchel mae hwn yn fae bychan creigiog, wedi’i wasgu rhwng dau glogwyn uchel filltir i’r de o Dyddewi. Mae’r creigiau o gwmpas Caerfai’n gymysgedd amryliw o lwyd, gwyrdd a phinc llachar.

Ar lanw isel, daw traeth tywodlyd, gyda digon o byllau glan môr, i’r golwg. Byddwch yn ofalus gan fod ceryntau cryf yn y môr oddi ar Gaerfai.

Mae mynediad i’r traeth i lawr llwybr serth a throellog.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Gwobr Glan Môr 2019 a Gwobr Arfordir Gwyrdd 2019

Parcio

Mae lle i tua 50 o geir barcio ar ben uchaf y traeth ac mae’n rhad ac am ddim!

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r cyfleusterau agosaf yn ninas Tyddewi. Mae Tyddewi’n ddinas boblogaidd; cafodd statws dinas yn sgil Eglwys Gadeiriol fendigedig Tyddewi a adeiladwyd ar lannau Afon Alun yn y 12fed ganrif. Mae Canolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol (ar agor trwy’r flwyddyn), nifer o gaffis, tafardai a bwytai, nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, parciau carafanau, gwely a brecwast a hunanarlwyo yn Nhyddewi a’r ardal.

  • Nofio
  • Byddwch yn Wyliadurus o Geryntau
  • Clogwyni
  • Maes Parcio Rhad ac Am Ddim
  • Gwobr Arfordir Gwyrdd
  • Creigiog
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Traeth Gwobr Glan Môr

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi