Does dim angen dau gar

Codwch law ar y bws a gwibiwch ar hyd yr arfordir

Mae’n haws gyda’r gwasanaethau bws arfordirol

Teithio o gwmpas Sir Benfro

Mae gan y gwasanaethau bws arfordirol enwau gwych fel: y Pâl Gwibio, Gwibiwr Poppit, Gwibiwr Strwmbwl, y Gwibiwr Celtaidd a Gwibfws yr Arfordir ac mae’r bysiau’n teithio ar hyd arfordir y Parc Cenedlaethol.

Felly mae modd teithio 186 milltir (299km) Llwybr Arfordir Sir Benfro, o Landudoch i Amroth, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r bysiaun rhedeg 7 diwrnod yr wythnos rhwng Mai a Medi, a deuddydd yr wythnos yn ystod y gaeaf, sy’n eu gwneud yn berffaith ar gyfer cerddwyr gan eu bod gallu cynllunio diwrnod o gerdded ar y llwybr heb fod angen dau gar. Does ond angen codi llaw ar y bws a neidio arno. Gallwch fynd â chŵn a choetsis ar y bysiau hefyd.  

 Mae gwasanaeth bysiau ardderchog arfordir Sir Benfro wedi cael ei gydnabod gan wefan twristiaeth a theithio cynaliadwy flaenllaw, The Green Traveller, sydd wedi creu canllaw ar gyfer crwydro Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro heb gar.   

Teithio o weddill Prydain, neu ymhellach

Mae’r holl wybodaeth a’r dolenni y byddwch eu hangen yn adran deithio gwefan swyddogol Croeso Cymru mae’n adnodd arbennig, ac rydym wedi dewis a dethol rhai o’r rhannau mwyaf defnyddiol (yn ein barn ni) er mwyn arbed amser i chi. Defnyddiwch y dolenni isod i gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Croeso Cymru o ran: 

Fyddwch chi’n cyrraedd Sir Benfro mewn awyren neu hofrenydd preifat?

Mae maes awyr Hwlffordd yn agos i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’i arfordir bendigedig. Oherwydd ei leoliad, mae’n faes awyr bywiog, sy’n lle poblogaidd i lanio ar y ffordd i Iwerddon. Mae caffi Propellers yn cynnig dewis da o fwydydd a diodydd poeth ac oer, gan gynnwys brecwast sy’n boblogaidd yn lleol.  

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi