Martin's Haven i Nolton Haven

14 milltir

14 milltir

Martin’s Haven i Nolton Haven

Dyma daith sy’n uno 6 o ‘hafanau’ Sir Benfro:

Martin’s Haven, St Bride’s Haven, Aber Bach (Little Haven), Aberllydan (Broad Haven), Druidston Haven, a Nolton Haven.

Mae’n daith eithaf rhwydd i ddechrau gan nad oes fawr o godiad tir hyd nes y byddwch wedi mynd heibio i Aber Bach – ond mae’r llwybr ychydig yn fwy anodd wedi hynny. Ar lanw isel iawn gallwch gerdded o Aber Bach i Aberllydan ar hyd y traeth, gan osgoi dringo bryn serth.

Mae sawl golygfa wych i’w chael ar y llwybr hwn, yn enwedig yn ardal Haroldston Chins, felly cofiwch ddod â’ch camera!

Llwybr

  • O Martin’s Haven, ewch 1½ milltir i gyfeiriad y dwyrain

  • Os yw’r llanw allan, ewch i weld Traeth Musselwick cyn anelu am y gogledd

  • Ar ôl rhyw ddwy filltir, fe ddaw St Bride’s Haven (toiledau) a Chastell Sain Ffraid, plasty barwnaidd o’r 19eg Ganrif sydd bellach yn llety hunanarlwyo moethus, i’r golwg

  • Roedd ffatri fflintiau yn St Bride’s Haven yn yr Oes Fesolithig. Os yw amser yn caniatâu, ewch draw i weld yr eglwys

  • Ewch yn eich blaen ar hyd y clogwyni sy’n codi’n raddol hyd nes y byddwch yn ymuno â’r ffordd am gyfnod byr

  • Yna mae’r llwybr yn disgyn tuag at Aber Bach, gyda grisiau serth i gyrraedd y Cob ar y diwedd

  • Os yw’r llanw ddigon pell allan, gallwch gerdded draw i Aberllydan ar hyd y traeth, gan osgoi dringo bryn serth

  • I’r gogledd o Aberllydan, mae llethr graddol hyd nes y byddwch wedi cyrraedd man sydd â golygfa anhygoel o Haroldston Chins

  • Ewch ar hyd y ffordd am hanner milltir, heibio i’r Druidston Hotel, ac yna dilynwch y llwybr i lawr i’r traeth

  • Mae’r llwybr yn eithaf serth ar ben arall y traeth, ond nid yw’n para’n hir. Mae’n wastad wedyn ar y cyfan, ac yn disgyn yn raddol tuag at Nolton Haven

  • Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr

Lawlwytho ffeil GPX

Gwybodaeth ddefnyddiol

Lluniaeth: Tafarndai a chaffis yn Aber Bach ac Aberllydan. Gwesty yn Druidston. Tŷ Tafarn yn Nolton Haven.

Parcio: Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Martin’s Haven. Maes parcio ger y traeth yn Nolton Haven.

Canolfan Groeso agosaf: Hwlffordd

Ffôn: 01437 775244

E-bost: haverfordwestlendinglibrary@pembrokeshire.gov.uk

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi