Skip to content

Gwefan swyddogol Sir Benfro ar gyfer gwybodaeth i dwristiaid

|
|

Iaith Cymraeg English

Croeso i

Sir Benfro

Sir fwyaf gorllewinol Cymru.

Mae ein tirwedd fendigedig dan warchodaeth unigryw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a pha ffordd well o’i darganfod na thrwy grwydro Llwybr Arfordir Sir Benfro? 186 milltir o lwybrau sy’n eich arwain trwy faeau a phorthladdoedd bychain, mwy na 50 o draethau, trefi bywiog a phentrefi tawel, heb sôn am ddinas leiaf y DU: Tyddewi.

Ac mae Sir Benfo’n lle gwych am wyliau i’r teulu oddi wrth yr arfordir hefyd – mae digonedd o bethau i’w gweld a’u gwneud: parciau antur, cestyll hynafol, tripiau cychod, a theithiau ceffylau, a llawer iawn mwy! Bydd yr holl atyniadau a digwyddiadau’n siwr o wneud eich gwyliau’n un i’w gofio.

Wedi i chi ddarganfod Sir Benfro byddwch yn methu â deall pam na fyddech chi wedi dod yma amser maith yn ôl.

Chwilio ar fap

Mae bod yn yr awyr agored yn rhan o fywyd bob dydd drwy gydol y flwyddyn yn Sir Benfro

Darganfod ein uchafbwyntiau naturiol
Trefdraeth

Darganfod ein harfordir ysblennydd

Ewch ar grwydr ar hyd Ffordd yr Arfordir